|
CYNGOR CYMUNED CRYMYCH YN CEFNOGI
CYNLLUN GWEITHREDU Glog, Hermon a Llanfyrnach
Dewch i helpu i lunio dyfodol y cymuned
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau eraill wedi clustnodi cronfeydd i gynnal a gwella bywyd cymunedau gwledig. Dim ond trwy i’r gymuned ddod ynghyd I nodi ei chryfderau, ei gwendidau a chyfleon a chytuno ar Gynflun Gweithredu Cymunedol cyfamserol y gellir sicrhau arian I gyflawni prosiectau.
Bydd y Cynhlun Gweithredu i Glog, Hermon a Llanfyrnach yn cyflwyno darlun cynhwysfawr o anghenion cyfredol y gymuned a dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Mae’n bwysig fod mudiadau, busnesau ac unigolion o fewn y gymuned, yn cymryd rhan er mwyn i’r ddogfen fod yn wir gynrychioliadol. Bydd y Cynllun Gweithredu hefyd yn cymryd sylw o’r wybodaeth ddarparwyd gan nifer o astudiaethau a wnaed yn yr ardal dros y blynyddoedd diweddar.
Mae Cyngor Cymuned Crymych yn cyd-weithio gyda PLANED (Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development) I sefydlu Fforwn Cymenudol ac I greu Cynllun Gweithredu Glog, Hermon a Llanfyrnach.
|