GWD/BB
Mr. Gerson Davies
Est. 775861
3ydd o Fawrth 2003
GERSON DAVIES
Director of Education and Community Services
Pembrokeshire County Council, County Hall, HAVERFORDWEST, Pembrokeshire, SA6I IT]'
DX 98295 HAVERFORD WEST
Telephone 01437 764551
Fax 01437 775838
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cyrnunedol
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, HWLFFORDD, Sir Benfro, SA6I IT]'
DX 98295 HWLFFORDD
Ffon 01437 764551
Ffacs 01437 775838
www.pembrokeshire.gov.uk
AT: Rieni Disgyblion Ysgolion Cynradd Blaenffos, Crymych a Hermon
Annwyl Riant
Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynigion i gryfhau addysg gynradd yn yr ardal
a'r cyfarfodydd ymgynghorol hyd yn hyn.
Derbyniwyd gohebiaeth oddi wrth Gadeiryddion y tri Corff Llywodraethol yn nodi eu barn yn glir. Derbyniais hefyd lythyr oddi wrth riant o Hermon yn awgrymu fod rhieni Hermon wedi gadael cyfarfodydd heb dderbyn gwybodaeth bellach ynglŷn â datblygiadau posib yng Nghrymych a fyddai, o'u gweithredu, yn cael effaith ar addysg eu plant yn Hermon. Tra ei bod yn anodd i gyfiawnhau'r fath ddatganiad, hwyrach y bydd rhai rhieni'n dymuno cael eglurhad pellach. Gan hynny, os dymunwch gael eglurhad pellach fe'ch gwahoddir i fynychu'r canlynol:
(i) "Syrjeri" ar gyfer rhieni unigol Ddydd Iau Mawrth 13, 2003, rhwng 1 pm a 4 pm yn Ysgol y Preseli, Crymych; dylai unrhyw un sy'n dymuno mynychu gysylltu â Mrs. Bethan Bowen (ar 01437 775861);
(ii) cyfarfod agored i rieni'r tair ysgol yn Ysgol y Preseli, Crymych, Ddydd Iau Mawrth 1 3 am 7.30 pm. Ceir gwybodaeth i atgoffa am y matenion a drafodwyd ar achlysuron blaenorol ynghyd a chyfle i godi materion pellach.
Yn ychwanegol, estynnwyd y cyfnod ar gyfer sylwadau tan Ddydd Llun Mawrth 24, 2003; os dymunwch fynegi barn a wnewch chi sicrhau fy mod yn derbyn eich sylwadau erbyn canol dydd ar y dyddiad hwnnw.
Mae copiau o wybodaeth a ddosbarthwyd mewn cyfarfodydd ymgynghori diweddar a gohebiaeth gyffredinol ar y materion ar gad gan benaethiaid y tair ysgol os dymunwch fwrw golwg drostynt. Gofynnaf i rieni Hermon nodi fod copiau o ohebiaeth wedi eu hanfon atynt at Ionawr 15; a bod llythyron a anfonwyd at Mrs. Nerys Nicholas ar Dachwedd 25 a Rhagfyr 6 ar gael gan y penaethiaid yn yr ysgolion.
Yn ddiffuant
G.W. Davies
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymunedol