| This email was sent to all Welsh Assembly Members on 10th April 2002 concerning the planned closure of Hermon School. | |
| Ysgol Hermon yn herio''r drefn.
Ysgol fach wledig dan fygythiad eto ! At sylw holl aelodau''r Cynulliad mewn cyswllt a''r Polisi Drafft arfaethedig ar Ysgolion Gwledig. Mae Ysgol Hermon, Sir Benfro o dan fygythiad o gael ei chau er mwyn creu ysgol ardal fawr yng Nghrymych. Mae''r Bwrdd Llywodraethol a''r rhieni gant y cant yn erbyn y fath ddatblygiad. Pam cadw Ysgol Hermon ar agor ? -- Dyma''n dadleuon. Rhif. · Mae''r ysgol yn llawn. Bydd 51 o ddisgyblion yma yn Nhymor yr Haf 2002, gydag arwyddion pendant o dwf cyson yn ystod y blynyddoedd nesaf. Dyfodol sicr felly o ran rhifau. Adeilad. · Mae''r adeilad yn hollol glyd a diogel heb angen gwariant arno. Cost. · Mae addysgu plentyn yn Ysgol Hermon yn cyfateb yn ffafriol a''r norm sirol. Iaith. · Mewn awyrgylch gartrefol a phersonol mae modd hybu Cymreictod a diogelu''r Iaith Gymraeg i''r dyfodol. Addysg. · Mae ansawdd y dysgu a''r addysgu o safon uchel ac atebir gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn llawn. Y Gymuned. · Mae''r ysgol yn ganolbwynt i weithgareddau a bywyd y gymuned. Pam dweud ""na"" wrth ysgol ardal fawr o 180 o blant? Cludiant. · Rhaid cludo''r plant o bedair mlwydd oed ar fysiau sy''n cyflwyno costau , peryglon ac anghyfleustra ychwanegol i rieni. Diogelwch. · Mae''r peryglon o ran diogelwch yn frawychus. Gall plant o bedair mlwydd oed gael eu dylanwadu gan ymddygiad anaddas y disgyblion yn eu harddegau. Dosbarthiadau. · Yn anffodus, rhagdybir y bydd maint y dosbarthiadau yn fwy gyda llai o sylw personol i'r unigolyn. Cymreictod. · Mewn ysgol fawr, bydd y broses o ddi-Gymreigio''r plant yn anochel ac yn arwain at golli Cymreictod. Dymuniadau''r rhieni. · Mae creu ysgol ardal fawr yn gwbl groes i ddymuniadau holl rieni Ysgol Hermon. Nid oes cyfiawnhad o fath yn y byd dros gau ysgol fach wledig fel Hermon sydd yn ffynnu ac yn llwyddo. Diolch am ddarllen yr uchod. Rhaid gweithredu ar unwaith i warchod gwir werthoedd ein cymunedau gwledig er mwyn diogelu i'r cenedlaethau a ddaw "" y glendid a fu"". Yn gywir Bwrdd Llywodraethol Ysgol Hermon ar ran holl rieni disgyblion yr ysgol. |
|