Ymgyrch Ysgol Gymunedol Hermon
Ysgol gynradd pentrefi Hermon,Y Glôg & Llanfyrnach
Dyddiad:
Annwyl Aelod o’r Cabinet
Ysgrifennaf atoch fel cefnogwr brwd i Ysgol Gymunedol Hermon i ddatgan fy ngwrthwynebiad chwyrn i’r bwriad i gau’r ysgol
hon a chreu ysgol ardal fawr ym mhentref Crymych. Gwn hefyd fod Ilywodraethwyr, staff a holl rieni Ysgol Gymunedol Hermon
yn gwbl unfrydol na ddylid cau’r ysgol ar unrhyw gyfrif.
- Nid oes gennych unrhyw sail addysgol dros gau’r ysgol gan fod y plant i gyd yn derbyn addysg o safon uchel sy’n
ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.
- Nid oes ychwaith unrhyw sail ariannol dros gau’r ysgol yn Hermon gan fod ariannu’r sefydliad yn cymharu’n
ffafriol a chost cyfartalog y sir.
- Yn drydydd, a’r pwysicaf, yw bod dyfodol yr ysgol yn gwbl llewyrchus gan fod 52 o ddisgyblion yn mynychu’r
ysgol ar hyn o bryd a 12 o blant yn aelodau o’r Cylchoedd Meithrin Ti a Fi sy’n cyfarfod yn ddyddiol ar
safle’r ysgol.
Mae cau ysgol sy’n llawn ac yn tyfu yn gwbl annerbyniol ac yn gywilyddus!
Mae nifer o agweddau cadarnhaol eraill dros gadw Ysgol Gymunedol Hermon ar agor.
- I ddechrau, mae pentrefi Hermon, Y Glôg a Llanfyrrnach yn bentrefi ifainc sy’n denu nifer o deuluoedd ifanc i
ymgartrefu yma. Mae datblygiad newydd ar waith ar hyn o bryd ym mhentref Hermon sy’n cefnogi’r ffaith fod Hermon,
Y GIôg a Llanfyrnach yn bentrefi bywiog a llwyddiannus.
- Yn ail, mae datblygiadau cyffrous eraill ar y gweill o dan adain Pwyllgor Mileniwm Hermon sef adeiladu neuadd
amlbwrpas i’r pentrefi drws nesaf i safle’r ysgol gynradd bresennol. Byddai hyn yn galluogi’r disgyblion i gael
defnydd ehangach o gyfleusterau a gofod ychwanegol i gynnal gwersi megis ymarfer corff ac achlysuron fel
eisteddfodau a chyngherddau / sioeau ysgol. Yn ogystal â’r neuadd, mae cynlluniau ar gyfer maes parcio eang
a mynedfeydd ac allanfeydd a fydd yn sicrhau diogelwch y plant i ffwrdd o’r brif-ffordd wrth iddynt gyrraedd
a gadael yr ysgol yn ddyddiol.
- Yn ychwanegol, Ysgol Gymunedol Hermon sy’n darparu cinio ar gyfer ysgolion Glandwr a Chlydau yn ogystal ag
Ysgol Hermon.
Mae holl rieni Ysgol Gymunedol Hermon yn gwbl gefnogol i’r ysgol hon sy’n darparu addysg dda mewn awyrgylch diogel
a chartrefol i’w phlant. Amlygir y gefnogaeth hon i’r ysgol yng ngweithgareddau allgyrsiol blynyddol yr ysgol a’r
achlysuron hapus a drefnir i godi arian tuag at gronfa’r ysgol. Mae’r pentref i gyd yn cyfrannu ac yn mwynhau’r
cyd-weithio effeithiol sy’n nodweddiadol o bentref ac Ysgol Hermon. Yn sicr, nid yw’r mwyafrif o ysgolion y sir yn
elwa o’r fath gefnogaeth gref!
Nid oes unrhyw sail dros gau ysgol effeithiol, llawn a llwyddiannus fel hon a nodaf eto fy ngwrthwynebiad chwyrn
i’r bwriad afresymol hwn.
Yr eiddoch yn gywir